Mae'r llyfr hwn yn helpu i archwilio beth mae diagnosis o ADI yn ei olygu a beth gellir ei wneud amdano.
Gyda chyflwyniadau syml, darluniau hwyliog a bylchau i bersonoli'r llyfr, mae Cyfarfod ADI yn helpu i arwain sgyrsiau rhwng oedolion a phlant, yn cefnogi pobl ifanc i ddeall eu diagnosis ac yn eu helpu i gymryd eu camau cyntaf mewn hunan eiriolaeth.
"Fy ymateb cyntaf wrth bori trwy'r llyfr yma, cyn ei rannu gyda fy mhlentyn 9 oed, yw bod y llyfr yma jyst yn dallt o'r dechrau. Mae'n dangos sut mae ADI yn edrych yn wahanol i bawb ac yn newid wrth i blant dyfu. Mae'n llyfr sensitive a hygyrch ac mae ôl gwaith meddwl arno. Mae'n gwneud gwaith gwych o egluro beth yw ADI a sut mae'n effeithio ar fywydau plant." SLCNstories.com
Llyfr deniadol y gall teuluoedd ei ddefnyddio i siarad am ADI gyda'u plentyn. Galla i ddychmygu y bydd plant eisiau ei ddarllen dro ar ôl tro.
-Stephen Parsons- Cadeirydd RADLD
Mae'r llyfr yma'n cyflwyno ac yn esbonio Anhwylder Datblygiadol Iaith (ADI) mewn ffordd hyfryd o addas i blant. Mae'n llwyddo i gynnwys llawer o wybodaeth a allai fod yn gymhleth i blentyn gydag ADI, mewn iaith hawdd i'w deall ac â naws bositif.
-Kate Starr, Athro Arbenigol